Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 20 Medi 2021
Amser:
10.00 -
10.42
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12429
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jack Sargeant AS (Cadeirydd) Luke Fletcher AS Joel James AS Buffy Williams AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Price (Clerc) Mared Llwyd (Ail Glerc) Steffan Lewis (Dirprwy Glerc) Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant
The Chair welcomed Members to the meeting. There were no apologies.
2.1 P-06-1171 Cyhoeddwch dystiolaeth glir fod COVID-19 yn cael ei ledaenu mewn tafarndai a bwytai lle mae mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith.
Daeth y cyfnod atal byr i ben, ac mae’r rhan fwyaf o’r cyfyngiadau wedi dod i ben hefyd yn awr, felly cytunodd y Pwyllgor i nodi’r ddeiseb ond i beidio â chymryd camau pellach. Cytunodd i gau’r ddeiseb gan ddiolch i'r deisebydd am godi’r mater.
2.2 P-06-1181 Mae treillio ar wely’r môr yn lladd ein bywyd gwyllt morol… Rhowch y gorau i chwalu’n moroedd!
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn gofyn a allai Ardaloedd Morol Gwarchodedig fod yn faes i’w ystyried yn ystod y Senedd hon.
2.3 P-06-1182 Dylid ond cau busnesau sydd wedi cael achos o COVID-19 yn gysylltiedig â nhw
Nododd y Pwyllgor fod amgylchiadau wedi newid cryn dipyn ers cyflwyno’r ddeiseb ym mis Rhagfyr 2020, ac roedd lleoliadau lletygarwch yn awr yn gallu agor. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebwyr.
2.4 P-06-1184 Dylid gwahardd ar unwaith y defnydd o blwm gwenwynig yn holl ffrwydron Cymru … mae plwm yn lladd ein bywyd gwyllt!
Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n aelod o Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain (BASC).
Nododd y Pwyllgor fod y Gweinidog yn gefnogol i’r pryderon a godwyd gan y deisebydd ac maent yn cael eu hystyried fel rhan o’r trafodaethau â Llywodraethau’r DU a’r Alban i gyfyngu ar belenni plwm. Cytunodd y byddai’n parhau i gadw golwg ar y mater ac ystyried y ddeiseb eto’n dilyn adolygiad gan raglen waith UK REACH.
2.5 P-06-1208 8 Deddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag collicynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn.
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1 P-05-1040 Cyflwyno moratoriwm ar gymeradwyo unrhyw losgyddion gwastraff newydd ar raddfa fawr yng Nghymru.
Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n adnabod y deisebydd.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb gan gynnwys:
3.2 P-05-1041 Polisi a chyllid clir ar gyfer ysbytai a chartrefi gofal ar gyfer ymweliadau rhithwir yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau symud
Dywedodd yr
aelodau eu bod yn cydnabod bod y penderfyniad i gyfyngu ar
ymweliadau â chartrefi gofal wedi arwain at brofiadau
anodd. Mae Cymru gyfan yn awr ar Lefel Rhybudd Sero ac
mae’r canllawiau ar ymweliadau wedi’u diweddaru. Gan
hynny, daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oedd fawr ddim arall
y gallai ei wneud a chytunodd i ddiolch i’r deisebydd am
dynnu sylw at y mater a chau’r ddeiseb.
Wrth wneud hynny, cytunodd yr aelodau i ddiolch i'r Gweinidog am
roi sylw i’r mater ac ysgrifennu ati yn gofyn iddi ystyried y
materion a godwyd yn y ddeiseb yn y dyfodol os bydd yr un
sefyllfa’n codi eto.
3.3 P-05-1132 Cychwyn Ymchwiliad Barnwrol Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n adnabod y deisebydd
Datganodd Buffy Williams AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n adnabod y deisebydd
Nododd y Pwyllgor fod y Pwyllgor Deisebau blaenorol wedi cytuno i aros i gael sylwadau’r deisebydd ar ymateb y Gweinidog. Fodd bynnag, gan nad oedd y deisebydd wedi ymateb, roedd y Pwyllgor yn teimlo nad oedd unrhyw gamau clir y gallai eu cymryd a chytunodd i gau’r ddeiseb.
3.4 P-05-1112 Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011
Nododd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymchwil ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol, a bod y deisebydd wedi cael copi o’r ymchwil hwn. Cytunodd yr aelodau i ofyn i Lywodraeth Cymru am eu hymateb i'r Ymchwil a gyhoeddwyd ym mis Mawrth ac a oedd yn derbyn yr argymhellion ac, os felly, sut a phryd y byddai’n eu rhoi ar waith.
3.5 P-05-1140 Dylid adolygu'r canllawiau ar gyfer Prydau Ysgol Am Ddim, gan ddileu'r opsiwn ar gyfer dosbarthu parseli bwyd.
Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n adnabod y deisebydd
Nododd y Pwyllgor fod y ddeiseb yn ymdrin â mater pwysig ond roedd plant wedi dychwelyd i'r ysgol ers Ebrill 2021. Gan hynny, cytunodd yr aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, yn gofyn iddo nodi’r materion a godwyd yn y ddeiseb fel rhan o’r adolygiad a oedd yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i’r meini prawf cymhwystra ar gyfer prydau ysgol am ddim. Wrth wneud hynny cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
3.6 P-06-1160 Ei gwneud yn ofynnol i ganolfannau arholiadau lleol yng Nghymru dderbyn myfyrwyr sy'n cael addysg yn y cartref ar gyfer arholiadau cyhoeddus
Cytunodd y Pwyllgor i ystyried y mater a godwyd yn y ddeiseb eto, yn dilyn ymateb gan Lywodraeth Cymru, a nododd nad yw’r materion a godwyd yn y ddeiseb dan sylw’n ymwneud yn benodol â phandemig Covid-19. Cytunodd yr aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru eto yn gofyn am ragor o wybodaeth am eu gwaith polisi tymor hir yn ymwneud â dysgwyr sy’n cael eu haddysg yn y cartref - gwaith a ddaeth i ben dros dro oherwydd y pandemig.
3.7 P-06-1163 Dylid ymestyn y fwrsariaeth STEMM ôl-raddedig i bob myfyriwr MSc yng Nghymru
Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Roedd wedi cael trafodaeth yn flaenorol gyda’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg mewn perthynas â hyfforddiant Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (TAR).
&
Mae'n gyn-beiriannydd
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i:
· gofyn iddo edrych eto ar yr anghysondeb hwn a sut y gellid mynd i'r afael ag ef o fewn y fframwaith deddfwriaethol presennol.
3.8 P-06-1158 Llywodraeth Cymru i benodi Gweinidog anabledd pwrpasol o fewn tymor nesaf y Llywodraeth.
Croesawodd y Pwyllgor y penderfyniad i sefydlu'r Tasglu Hawliau Anabledd dan arweiniad y Gweinidog a fydd yn bwrw ymlaen ag argymhellion yr adroddiad gan y Fforwm Cydraddoldeb Anabledd, sy'n galw am benodi Gweinidog Anabledd dynodedig. Felly, cytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
3.9 P-06-1166 Darparu grantiau di-dreth i bobl sy’n gweithio yn y celfyddydau a darparu cyllid grant i leoliadau celfyddydol
Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n adnabod y deisebydd
Datganodd Buffy Williams AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n adnabod y deisebydd
Cytunodd y Pwyllgor nad oedd unrhyw gamau amlwg y gallai eu cymryd yn awr a chytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
3.10P-06-1170 Adolygiad annibynnol di-oed o'r broses ddethol Haen 1 a Haen 2 yn Uwch-gynghrair Menywod Cymru
Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Llofnododd y datganiad barn a aeth i'r Senedd ar y mater hwn.
Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae’n aelod o fwrdd un o’r clybiau yn Uwch Gynghrair Cymru.
Cytunodd y Pwyllgor i:
• gydnabod rhwystredigaeth y deisebydd ynglŷn â’r broses a’r diffyg tryloywder mewn perthynas â chyhoeddi'r matrics sgorio a oedd yn sail i broses ddethol Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
• nodi eu siom â phroses ailstrwythuro Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
• nodi rhwystredigaeth y Pwyllgor ac nad oedd unrhyw beth arall y gallai ei wneud, yn anffodus. Gan hynny, roedd yn rhaid cau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am dynnu sylw at ei phryderon.
3.11P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon ochr yn ochr â deiseb P-05-1080 Cyflwyno deunyddiau addysgu gwrth-hiliol i blant mewn ysgolion yng Nghymru er mwyn lleihau troseddau casineb a chytunodd i groesawu'r ffaith bod y Gweinidog Addysg wedi derbyn adroddiad cynhwysfawr y Gweithgor a 51 o’i argymhellion ym mis Mawrth 2021 a:
· wrth gau'r ddeiseb, cytunodd yr aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog i gael y wybodaeth ddiweddaraf am roi'r argymhelliad ar waith ddiwedd mis Mawrth 2022, gan gytuno i rannu'r ymateb hwnnw â'r deisebwyr.
3.12P-05-1080 Cyflwyno deunyddiau dysgu gwrth-hiliaeth i blant mewn ysgolion yng Nghymru i leihau troseddau casineb
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon ochr yn ochr â deiseb P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru a chytunodd i groesawu'r ffaith bod y Gweinidog Addysg wedi derbyn adroddiad cynhwysfawr y Gweithgor a 51 o’i argymhellion ym mis Mawrth 2021 a:
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniwyd y cynnig.
5 Blaenraglen waith
Trafododd y Pwyllgor sut roedd am fwrw ymlaen â’r flaenraglen waith a chytunodd y byddai’n gwneud cais i gwrdd wyneb yn wyneb yn ei gyfarfod nesaf ar 4 Hydref.
Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ailystyried y trothwy llofnodion yn ei gyfarfod nesaf.
2 Deisebau newydd